Skip to content ↓

Ysgol Gymraeg / A Welsh School

Mae Ysgol Gymraeg Brynsierfel yn ysgol benodedig Gymraeg wedi’i lleoli yn Llwynhendy, Llanelli.

Ysgol Gymraeg Brynsierfel is a designated Welsh-medium primary school situated in Llwynhendy, Llanelli.

Siarter Iaith Ysgol Gymraeg Brynsierfel

Uchelgais Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o bobl yn gallu mwynhau siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050.

Rhaid i’r genedl gyfan fod yn rhan o’r daith – boed yn siaradwyr Cymraeg rhugl, yn siaradwyr Cymraeg sy’n gyndyn i ddefnyddio’r iaith neu yn siaradwyr newydd.

Rydym ni yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel ar flaen y gad yn yr ymgyrch hon.

Ers derbyn Gwobr Aur y Siarter Iaith yn 2019, rydym yn parhau i hyrwyddo’r defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd o fywyd yr ysgol a’r gymdeithas ehangach.

 

The Welsh Government’s ambition is to see one million people able to enjoy speaking and using the Welsh language by 2050.

The whole nation has to be part of the journey – fluent Welsh speakers, Welsh speakers who are reluctant to use the language and new speakers.

We at Ysgol Gymraeg Brynsierfel are at the forefront of this campaign.

Having received the ‘Siarter Iaith’ Gold Award in 2019, we continue to promote the use of Welsh in every aspect of school and community life.

 

     

Criw Cymraeg Ysgol Gymraeg Brynsierfel

Mae gan Griw Cymraeg Ysgol Gymraeg Brynsierfel 12 o aelodau, dau gynrychiolydd o bob dosbarth yng Nghamau Cynnydd 2 a 3.

Ein rôl yw hyrwyddo’r Gymraeg yn yr ysgol a’r gymuned ehangach.

  • Rydym wedi ennill gwobrau efydd, arian ac aur y Siarter Iaith trwy gwblhau amrywiaeth o weithgareddau a threfnu llawer o ddigwyddiadau diddorol a chyffrous.
  • Rydym yn cwrdd yn rheolaidd er mwyn trafod syniadau a threfnu gweithgareddau.
  • Rydym yn annog ac yn helpu ein cyfoedion i siarad Cymraeg.
  • Rydym yn cydweithio gyda siopau a gwasanaethau lleol er mwyn annog y defnydd o’r Gymraeg ym mhentref Llwynhendy a'r ardal ehangach
  • Rydym yn cydweithio gydag ysgolion lleol i hyrwyddo’r iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig.

 

Ysgol Gymraeg Brynsierfel’s Criw Cymraeg has 12 members, two representatives from each class in Progression Steps 2 and 3.

Our role is to promote the use of Welsh within the school and the wider community.

  • We have achieved the bronze, silver and gold awards for the Siarter Iaith by completing a number of activities and organising interesting and exciting events.
  • We meet regularly to discuss new ideas and organise events.                                                                   
  • We help and encourage our peers to speak Welsh.
  • We work together with local shops and services to encourage the use of the Welsh language in the village of Llwynhendy and the wider area.
  • We work with local schools to promote the Welsh language and Welsh culture.