Skip to content ↓

Ysgol Sy’n Parchu Hawliau / A Rights Respecting School

Hawliau Plant yn Ein Hysgol

Yn ein hysgol, credwn fod gan bob plentyn yr hawl i deimlo'n ddiogel, i gael eu parchu, a'u werthfawrogi. Rydym yn falch o hyrwyddo hawliau plant ym mhopeth a wnawn, gan helpu dysgwyr i ddeall eu hawliau a sut i barchu hawliau eraill. Mae ein hymrwymiad i hyrwyddo amgylchedd sy'n seiliedig ar hawliau yn sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed, a bod gan bob plentyn y cyfle i ffynnu.

Children's Rights at Our School

At our school, we believe every child has the right to feel safe, respected, and valued. We are proud to champion children’s rights in all that we do, helping pupils understand their rights and how to respect the rights of others. Our commitment to promoting a rights-based environment ensures that every voice is heard, and every child has the opportunity to thrive.

 

Rydym yn falch iawn i fod yn Ysgol sy'n Parchu Hawliau Plant

Rydym yn hynod falch o gael ein cydnabod fel Ysgol sy'n Parchu Hawliau gan UNICEF. Mae hyn yn golygu ein bod yn gosod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (UNCRC) wrth wraidd ethos ein hysgol. Mae ein gwaith wedi cael ei gydnabod gyda'r Wobr Efydd yn 2020 a'r Wobr Arian yn 2023. Mae'r cyflawniadau hyn yn adlewyrchu ymroddiad ein staff a'n disgyblion wrth greu amgylchedd dysgu gofalgar, cynhwysol a pharchus.

We are very proud to be a Rights Respecting School

We are extremely proud to be recognised as a UNICEF Rights Respecting School. This means we place the UN Convention on the Rights of the Child (UNCRC) at the heart of our school ethos. Our work has been recognised with the Bronze Award in 2020 and the Silver Award in 2023. These achievements reflect the dedication of our staff and pupils in creating a caring, inclusive, and respectful learning environment.

 

Gweithio gyda Chomisiynydd Plant Cymru

Fel rhan o raglen hawliau Comisiynydd Plant Cymru, mae ein hysgol yn cymryd camau gweithredol i ymgorffori egwyddorion hawliau plant ar draws pob agwedd o fywyd ysgol. Mae'r bartneriaeth hon yn cefnogi ein disgyblion i ddod yn unigolion gwybodus, hyderus a grymus sy'n gwybod eu hawliau ac yn deall sut i eiriol drostynt. Fel rhan o'r bartneriaeth hon, mae gennym 'Hawl y Mis' bob mis ynghyd â 'Mater y Mis'. Trafodir y rhain yn fanwl ym mhob ystafell ddosbarth a gwasanaethau.

Working with the Children’s Commissioner for Wales

As part of the Children’s Commissioner for Wales' rights programme, our school takes active steps to embed the principles of children's rights across all areas of school life. This partnership supports our pupils in becoming informed, confident, and empowered individuals who know their rights and understand how to advocate for them. As part of this partnership, we have a ‘Right of the Month’ every month along with a ‘Matter of the Month’. These are discussed in depth in every classroom and assemblies.

 

 

Llysgenhadon Hawliau

 

Mae ein hysgol yn falch o gael tîm o Lysgenhadon Hawliau ymroddedig sy'n chwarae rhan bwysig wrth hyrwyddo hawliau plant ar draws yr ysgol. Mae'r dysgwyr yma yn helpu i arwain gwasanaethau, trefnu digwyddiadau, a sicrhau bod pawb yn ein cymuned ysgol yn deall pwysigrwydd parchu a chynnal hawliau eraill. Mae eu harweinyddiaeth yn rhan hanfodol o wneud ein hysgol yn lle teg a chynhwysol i bawb.

Rights Ambassadors

Our school is proud to have a team of dedicated Rights Ambassadors who play an important role in promoting children’s rights across the school. These pupils help lead assemblies, organise events, and ensure that everyone in our school community understands the importance of respecting and upholding the rights of others. Their leadership is a vital part of making our school a fair and inclusive place for all.

Dyma ein Llysgenhadon Hawliau Plant y flwyddyn hon 2024-2025 / Here are our Children's Rights Ambassadors for the upcoming year 2024-2025:

 

 

 

Calendr Misol Hawliau Plant / Children's Rights Monthly Calendar