Skip to content ↓

Dosbarth Broga (Y Dosbarth Derbyn)

 Croeso i Ddosbarth Broga!

Welcome to Dosbarth Broga!

 

Ein tîm/Our team

Mr Bennett (Athro)

Mrs Jenkins (Cynorthwywraig)

 

Rydym yn ddosbarth o 18 disgybl brwdfrydig a bywiog.

Yn Ysgol Gymraeg Brynsierfel, rydym yn ymwybodol bod dechrau ysgol yn gyfnod pwysig ym mywydau plant ifanc. Ein nod yw cynnig amgylchedd hapus a diogel er mwyn i bob unigolyn ffynnu.

We are a class of 19, enthusiastic and lively learners.

At Ysgol Gymraeg Brynsierfel, we are very aware that starting school is an important time in the lives of young children. Our aim is to provide a happy, nurturing environment, for all individual to thrive.

 

Tymor yr Hydref, 2025

Ein llinell ymholi y tymor hwn yw: Ein Milltir Sgwâr

Yn Nosbarth Broga rydym yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu ar sail ymholiad.

Rydym yn cynnig cyfleoedd i ddysgwyr sylwi, rhyfeddu a chwestiynu, ymchwilio ac archwilio.

Mae dysgwyr yn myfyrio i ddeall, cysylltu a chyfnerthu, rhannu ac esbonio.

Yn ystod y tymor bydd ein gweithgareddau yn seiliedig ar Ein Milltir Sgwâr.

Byddwn yn edrych ar:

Ein teuluoedd, y pobl sy’n bwysig i ni a phwy sydd yn byw yn ein tai ni

  • Adeiladau yn ein hardal leol
  • Pobl sydd yn helpu ni yn y gymuned a’i swyddi
  • Mapio’r parc
  • Creu gwaith celf yn seiliedig ar ein cartrefi ac edrych ar waith celf artistiaid amrywiol

 

Our line of enquiry this term is: Ein Milltir Sgwâr (Our Square Mile)

In Dosbarth Broga, we place great emphasis on inquiry-based learning.
We offer opportunities for learners to observe, wonder, question, investigate and explore.
Learners reflect to understand, connect and consolidate, share and explain.
During the term, our activities will be based on Ein Milltir Sgwâr (Our Square Mile).
We will be looking at:

  • Our families, the people who are important to us, and who lives in our homes
  • Buildings in our local area
  • People who help us in the community and their jobs
  • Mapping the park
  • Creating artwork based on our homes and exploring the work of various artists

     

 

Gwybodaeth defnyddiol/Useful information

Ffrwythau/Fruit

Anogir pob dysgwr i ddod â darn o ffrwyth i’r ysgol i’w fwyta yn ystod sesiwn y bore. Sicrhewch bod grawnwin yn cael eu torri yn eu hanner ar eu hyd oherwydd gallent fod yn berygl tagu.

All learners are encouraged to bring a piece of fruit to school, to be eaten during the morning session. Please ensure that grapes are cut in half lengthways as they can be a choking hazard.

 

Siop Brynsierfel

Gellir prynu ffrwythau a photeli dŵr yn ein siop.

It is possible to purchase fruit and bottled water in our shop.

Ffrwythau/Fruit: 40c/40p

Dŵr/Water: 50c/50p

 

Gwaith Cartref/Homework

Gosodir gwaith cartref ar Ddydd Gwener, gyda tasgau gorffenedig yn cael eu dychwelyd i’r ysgol erbyn y Dydd Mawrth canlynol.

Homework tasks are set on Friday, with completed tasks returned to school by the following Tuesday.

 

Dillad sbâr/Spare clothing

Gofynnaf yn garedig bod dysgwyr yn dod â dillad sbâr i’r ysgol yn ddyddiol rhag ofn y ceir damweiniau.

Dylid sicrhau bod pob eitem o ddillad wedi’i labeli’n glir. Diolch

I kindly ask that learners bring spare clothing to school daily, in case of accidents.

All items of clothing should be clearly labelled. Thank you.

 

Dewch i weld Dosbarth Broga